
Fe gyfansoddodd Eira Cariad rhwng bod yn 15 a 19 oed a chyhoeddi’r gyfrol yn 1970m ac roedd Geraint yn d’eud hyn ei hun, pan oedd o mewn cariad efo barddoniaeth.Roedd o’n cofio yn Brook St, Glanrafon, llyfra’ barddoniaeth ar y silffoedd ymhob man.Cofio cyfnod o chwe blynedd a’r cwbl oedd o ‘di ‘neud, yn ôl Geraint, oedd darllen cyfrolau barddoniaeth a’r isio ‘ma i fod yn fardd.Rhyfeddol meddwl fod rhywun mor ifanc wedi sgwennu Eira Cariad a dwi wedi bod yn darllen y cerddi eto dros yr wythnosau d’wetha a sylwi ar y meddwl mor graff a sylwgar a synhwyrus sydd yna.Maen nhw’n gerddi reit delynegol ac mae ‘na dywyllwch bwriadol yna hefyd, ac mae’n sgwennu dipyn o Gerddi Fel Barddoniaeth Fel Celfyddyd Hefyd.Chwe Blynedd Wedyn Fe Gyhoeddodd Cerddi Alfred St. Roedd Geraint Wedi Byw Yn Alfred St Rhwng 1969-73. Mae hi’n gyfrol hunangofiannol.mae’n gyfrol thematig hefyd ac yn dal yr un cyfnod heriol ‘ma ym mywyd geraint. Mae yna ddelweddau gwych yma.hon hefyd oedd hoff gyfrol gerant o’r Dair cyfrol de farddoniaeth gyhoeddodd o. Roedd O’n Teimlo Fod y Sgwennu yn simlach ac yn fwy Uniongyrchol.
Compartilhar para: