
Mae dŵr cymru yn galw ar bobl leol i roi gwybod am urhyw achosion o ymddygiad amheus o gwmpas y safle i’r heddlu. blaenoriaeth yw iechyd a diogelwch y rhai sy’n gyfrifol,” meddai Victoria Collier, rheolwr dalgylch gyda Dŵr Cymru.”Mae ‘na reswm bod ffensys ac arwyddion rhybudd ar y safle, mae ‘na danciau dwfn iawn sy’n golygu pe bai rhywun yn disgyn i mewn, bydden nhw’n cael eu tynnu i’r gwaelod.”Dywedodd y prif arolygydd Stephen Pawson: “Rydyn ni’n poeni yn fawr fod yr unigolion hyn yn rhoi eu hunain mewn peryg bob tro y maen nhw’n tresbasu ar y Safle. “Mae’n bwysig Fod y rhai sy’n rhan o hyn yn Deall eu bod yn cyflawni troseddau drwy ymddwyn fel hyn, ac e fyddwn ni’n ymateb yn gadarn i hynny.”